Steven NealeYmunodd Dr Steven Neale â Phrifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 2016 fel Cydymaith Ymchwil ar y prosiect CorCenCC. Cyn dod i Gaerdydd roedd yn Ymchwilydd Ôl-ddoethuriaeth gyda NLX – grŵp Iaith a Lleferydd Naturiol ym Mhrifysgol Lisbon, Portiwgal, lle bu’n gweithio ers 2014 wedi iddo gwblhau ei PhD mewn Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Tasmania yn Awstralia. Cyn penderfynu mynd ar drywydd gyrfa academaidd, treuliodd Steven ei flynyddoedd cyntaf wedi’r Brifysgol yn gweithio mewn amrywiol swyddi cynhyrchu ffilmiau, teledu a fideo. Mae Steven yn gweithio gydag Irena a Dawn i adeiladu a gweithredu’r tagiwr rhannau ymadrodd, yr apiau torfoli, y pecyn cymorth pedagogaidd ac isadeiledd y corpws.