Paul RaysonMae Dr Paul Rayson yn Ddarllenydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerhirfryn, y DU. Ef yw cyfarwyddwr canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol UCREL sy’n ymchwilio i ieithyddiaeth corpws a phrosesu iaith naturiol (NLP). Un o brif amcanion hirdymor ei waith yw defnyddio NLP ar sail semanteg mewn amgylchiadau eithafol lle mae iaith yn swnllyd e.e. mewn amrywiadau hanesyddol, i ddysgwyr, areithiau, ebost, negeseuon testun, ymhlith rhai eraill. Mae ei ymchwil gymhwysol yn ymwneud â diogelu plant ar-lein, geiriaduron i ddysgwyr, a chwilio am destun mewn corpora hanesyddol ac adroddiadau ariannol blynyddol. Mae’n Gyd-ymchwilydd Canolfan Ymagweddau Corpws at y Gwyddorau Cymdeithasol ESRC (CASS) Prosiect pum mlynedd yw’r ganolfan hon sy’n ceisio defnyddio corpora mewn amrywiaeth o wyddorau cymdeithasol. Cyfrifoldeb Paul yw adeiladu’r fframwaith dadansoddi cyfrifiadurol a’r offer sydd eu hangen ar gyfer system anodi’r meysydd semantig, ac yna integreiddio hyn i mewn i ryngwyneb CorCenCC.