Dyfarnwr rygbi rhyngwladol; cyflwynydd teledu (S4C)

Nigel-Owens-8-e1459586911930“Mae’r prosiect yma’n mynd â’n gwybodaeth a’n defnydd o’r Gymraeg i lefel newydd. Mae’n addo adnodd fydd yn ‘dal’ yr elfen allweddol yma o’n cyfoeth diwylliannol ac yn ei ‘phecynnu’ mewn ffordd sydd o fewn cyrraedd i ni ac yn berthnasol. Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg o bob pau: o’r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. O’r diwedd, bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phawb sy’n defnyddio’r iaith bob dydd gofnod o iaith ‘bywyd go iawn’ a fydd yn ein helpu i weld sut mae Cymraeg cyfoes yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd.”