Margaret DeucharMae newid codau ymhlith diddordebau ymchwil yr Athro Margaret Deuchar ar hyn o bryd. Gyda thîm ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, casglodd sgyrsiau dwyieithog gan dri grŵp o bobl ddwyieithog: Cymraeg-Saesneg, Sbaeneg-Saesneg a Chymraeg-Sbaeneg. Cafodd y sgyrsiau eu trawsgrifio ac maent ar gael yn gyhoeddus (www.bangortalk.org.uk). Mae Margaret a’i chydweithwyr wedi defnyddio data o’r corpora i werthuso gwahanol ddamcaniaethau ieithyddol o newid codau (Herring et al 2010), i gymharu patrymau newid codau mewn tair cymuned ddwyieithog (Carter et al 2011), i herio safbwyntiau dylanwadol am y ffin rhwng newid a benthyg codau (Stammers a Deuchar 2012) ac i sefydlu’r ffactorau ieithyddol ychwanegol allweddol sy’n dylanwadu ar gynhyrchu newid cod. Mae Margaret yn darparu cyngor ynglŷn â datblygu fframwaith ar gyfer casglu data ac ynglŷn â thagio data corpysau Cymraeg.