Laurence AnthonyMae Laurence Anthony yn Athro Technoleg Addysgol ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae’n gyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Iaith Saesneg (CELESE), Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Waseda, Japan. Ers 25 mlynedd, mae wedi gweithio’n ddyfal ym maes ysgrifennu technegol, golygu a chyfieithu, gan gynnig seminarau hyfforddi i rai o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf yn Japan. Mae hefyd wedi gwneud llawer o waith ym maes ieithyddiaeth corpws, a derbyniodd Wobr Genedlaethol Cymdeithas Astudiaethau Corpws Saesneg Japan (JAECS) yn 2012 am ei waith ar AntConc, ac am ddatblygu amrywiaeth o offer dadansoddi corpws. Mae Laurence yn darparu cyngor strategol ac arweiniad ymarferol ynghylch dylunio a datblygu isadeiledd y corpws, addasu ac integreiddio’r pecyn cymorth pedagogaidd ac adeiladu cyfleusterau holi’r corpws.