Laura ArmanYmunodd Dr Laura Arman ȃ’r prosiect CorCenCC ym mis Ionawr 2019 ar ôl gweithio ym Mhrifysgol Bangor fel darlithydd cyfrwng Cymraeg a swyddog prosiect am ddwy flynedd a hanner. Mae ei chefndir mewn ieithyddiaeth a’i gwaith ymchwil ar y Gymraeg yn cyfrannu arbenigedd iaith penodol i gasglu data, gwirio ansawdd, ac i brosesu data ar y prosiect. Mae diddordebau ymchwil Laura yn cynnwys y rhyngwyneb cystrawen-semanteg, dosbarthau berfol, ieithyddiaeth gyfrifiadurol, amlieithrwydd, a chymunedau amlieithog, yn enwedig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifedig.