Kevin DonnelyAr ôl gradd a doethuriaeth yn Ieithoedd Bantu yn SOAS, Llundain, gweithiodd Kevin ar gyfer y Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn Belfast ac wedyn fel gweithredwr cymunedol a datblygwr meddalwedd yn Ynys Môn. Ym 2003 dechreuodd leoleiddio meddalwedd rhydd yn Gymraeg, a sylweddolodd nad oedd llawer o adnoddau iaith ar gael yn Gymraeg dan drwydded rydd. Felly creodd Eurfa, apertium-cy, corporau, a thagiwr rhannau ymadrodd ar gyfer y tair iaith yng nghorporau Bangor ESRC. Mae Kevin wedi gweithio ar nifer o ieithoedd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Swahili a Māori. Mae Kevin yn darparu arweiniad ynghylch adeiladu isadeiledd ar-lein corpws CorCenCC.