Jonathan MorrisMae Dr Jonathan Morris yn gweithio fel Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Ieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau sosioieithyddol a seinegol ar ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith. Yn benodol, mae ganddo ddiddordeb mewn sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar Gymraeg a Saesneg siaradwyr dwyieithog. Gallai’r ffactorau cymdeithasol hyn ddylanwadu ar sut y mae pobl ddwyieithog yn cynhyrchu eu hieithoedd neu ar sut y maent yn eu defnyddio ac yn teimlo amdanynt. Mae Jonathan yn cynorthwyo â chydlynu casglu’r data. (WP1).