Enlli ThomasYr Athro Thomas yw Pennaeth yr Ysgol Addysg ar hyn o bryd ac mae ei chefndir ym maes Seicoleg. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys astudiaethau seicoieithyddol o gaffael iaith plant mewn cysylltiad â datblygiad yn Gymraeg a datblygiad dwyieithog Cymraeg a Saesneg o dan amodau mewnbwn iaith leiafrifol; y berthynas rhwng defnyddio iaith leiafrifol a hyfedredd ynddi; datblygu offer asesu iaith leiafrifol a dwyieithog; a dulliau addysgol o gynyddu faint o iaith sy’n cael ei throsglwyddo, ei chaffael a’i defnyddio ymhlith teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig. Mae Enlli yn gyfrifol am lywio adeiladu a gwerthuso’r pecyn cymorth pedagogaidd Cymraeg ar gyfer CorCenCC.