Dawn-KnightMae Dawn Knight yn Darllenydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn ymwneud yn bennaf â meysydd ieithyddiaeth corpws, dadansoddi disgwrs, rhyngweithio digidol, cyfathrebu di-eiriau a chyd-destunau sosio-ieithyddol cyfathrebu. Dawn yw arweinydd y prosiect, ac mae’n gyfrifol am reoli’r Cyd-ymchwilwyr a’r Cynorthwywyr Ymchwil, rheoli mewnbwn yr ymgynghorwyr a’r grŵp ymgynghorol, cydlynu’r pecynnau gwaith, a goruchwylio allbynnau academaidd y prosiect. Mae hi hefyd yn darparu arbenigedd ar sut mae dylunio, adeiladu a holi corpysau.