Cerddor ac awdur; cyflwynydd radio a theledu (BBC)
Cerys-e1459590850837“Mae’n bleser mawr gen i gefnogi’r Corpws Cenedlaethol Cyfoes Cymraeg. Mae’n wych dod o hyd i brosiect academaidd sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned a gobeithio bydd siaradwyr Cymraeg yn ymuno â fi trwy ychwanegu eu cyfraniad eu hunain i’r banc o ddata. Y canlyniad ar y diwedd fydd adnodd Cymraeg am ddim, ar –lein fydd yn ein helpu i ddeall sut mae Cymraeg cyfoes yn ‘gweithio’ ac fe fydd yn ffynhonnell gwybodaeth gyfoethog i artistiaid creadigol, datblygwyr meddalwedd, cyfieithwyr, dysgwyr, athrawon, llunwyr polisi, ac unrhyw un sydd eisiau ymwneud â’r hyn sy’n gwneud ein hiaith fyw, real yn ddyrys, yn amryddawn ac yn hardd.”