Mae prosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes) yn creu adnodd iaith pwysig i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg, ymchwilwyr iaith Gymraeg, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg. Caiff llu o samplau iaith eu casglu o gyfathrebu bywyd go iawn, a’u cyflwyno mewn ‘corpws’ ar-lein y bydd modd ei chwilio, fel bod defnyddwyr yn gallu archwilio’r Gymraeg fel y caiff ei defnyddio mewn gwirionedd. I gael gwybod rhagor am CorCenCC, cliciwch i weld y fideo isod:

Prosiect sydd wedi’i yrru gan y gymuned yw CorCenCC. Gall siaradwyr Cymraeg o bob math o gefndiroedd, o bob gallu, gymryd rhan yn y prosiect drwy:

  • rannu eu Cymraeg â ni, ar ffurf iaith lafar, ysgrifenedig neu electronig megis negeseuon SMS, blogiau, gwefannau ac e-byst
  • ein helpu i gategoreiddio deunyddiau sydd yn y corpws
  • cyfrannu i’n fforwm trafod

Mae’r prosiect yn cynnig cyfle i bob defnyddiwr Cymraeg fod yn rhagweithiol wrth gyfrannu i adnodd Cymraeg a fydd yn ddefnyddiol i ni, ac i genedlaethau i ddod.

Dyma’r hyn y mae ein llysgenhadon CorCenCC yn ei ddweud:

“Mae’n bleser mawr gen i gefnogi’r Corpws Cenedlaethol Cyfoes Cymraeg…adnodd Cymraeg am ddim, ar–lein fydd yn ffynhonnell gwybodaeth gyfoethog i artistiaid creadigol, datblygwyr meddalwedd, cyfieithwyr, dysgwyr, athrawon, llunwyr polisi, ac unrhyw un sydd eisiau ymwneud â’r hyn sy’n gwneud ein hiaith fyw, real yn ddyrys, yn amryddawn ac yn hardd.”  Cerys Matthews

“Mae’r prosiect yma’n mynd â’n gwybodaeth a’n defnydd o’r Gymraeg i lefel newydd. Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg o bob pau: o’r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. O’r diwedd, bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phawb sy’n defnyddio’r iaith bob dydd gofnod o iaith ‘bywyd go iawn’ a fydd yn ein helpu i weld sut mae Cymraeg cyfoes yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd.”  Nigel Owens

“Bydd yn treiddio i sut mae ein hiaith yn esblygu a datblygu a sut rydym yn ei defnyddio yn y Gymru gyfoes. Mae hi’n cynnig ffenest i ni i weld ein heniaith hardd, gyfoethog, farddonol, a bydd yn rhoi dealltwriaeth i ni ohoni a chipolwg i ni o’i dyfodol. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn defnyddio strwythurau a brawddegau a phatrymau, treigladau, bratiaith a iaith lafar, iaith testun ac e-bost, sut rydym yn talfyrru, beth rydym yn ei ddweud a sut rydym yn ei fynegi. Yn fy marn i bydd y gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod fel cenedl a’n lle yn y byd.” Nia Parry

“Mae CorCenCC yn cyflythrennu a chysylltu. Ffrwyth cydweithio rhwng cymunedau a cholegau, bydd y corpws yn cynnig cipolwg ar ein bywydau amlgyfryngol a’n hunaniaethau haenog. Dyma brosiect angenrheidiol a fydd yn datgelu ‘cyflawn we’ ein defnydd cyfredol o’r Gymraeg yn ei holl hyblygrwydd.” Damian Walford Davies