DWD-Photo-e1459586837920Darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yw Alex Lovell. Mae wrthi’n cwblhau ei PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Yn ei draethawd doethurol, canolbwyntia ef ar sut orau y gellir cyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn llwyddiannus mewn ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg yng Nghymru. Cyn ei PhD, cwblhaodd radd BA yn y Gymraeg fel siaradwr Cymraeg ail iaith. Mae Alex hefyd wedi cyfrannu at brosiect CorCenCC o’r blaen fel trawsgrifydd. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil y mae: cynllunio ieithyddol; Cymraeg Ail Iaith; caffael ail iaith; polisi iaith ac addysg yng Nghymru; profi ac asesu ail iaith; dwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog.