Tess FitzpatrickMae’r Athro Tess Fitzpatrick yn ieithydd cymhwysol sydd â diddordeb arbennig mewn ymchwilio i gaffael ac athreulio geirfa; ymchwilio i brosesau adalw geirfaol (gan ganolbwyntio ar ymddygiad cysylltu geiriau); creu a gwerthuso offer asesu gwybodaeth am eirfa, a dylunio a chymhwyso technegau arloesol o ddysgu iaith. Tess sy’n arwain dylunio’r offer pedagogaidd, gan gynnwys adeiladu a defnydd rhestrau geiriau ar sail amlder. Mae hi hefyd yn cefnogi Dawn (ar y cyd â Steve Morris) yn rheoli prosiect CorCenCC ac yn sicrhau bod y targedau yn cael eu cyrraedd.