Steve MorrisMae Steve yn gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Ymunodd ag Adran Addysg Barhaus Prifysgol Abertawe yn 1991 fel darlithydd. Symudodd i Academi Hywel Teifi yn 2010, lle mae’n Athro Cysylltiol yn Adran y Gymraeg yn darlithio ym maes iaith ac yn goruchwylio gwaith ymchwil yn yr un maes. Mae Steve yn rheoli casglu’r data ar gyfer CorCenCC a’u trawsgrifio, ac mae’n cydlynu allbynnau anacademaidd y prosiect, gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth i grwpiau o ddefnyddwyr ac oddi wrthynt.