Scott PiaoMae gan Dr Scott Piao brofiad helaeth o ddatblygu offer corpws a phrosesu iaith naturiol. Mae wedi gweithio ar saith prosiect a ariennir gan EPSRC, AHRC, yr UE a JISC. Mae’r pynciau ymchwil o dan sylw wedi cynnwys creu ac anodi corpws, chwilio am destun, a defnyddio technegau prosesu iaith naturiol a chorpws mewn cyfrifiadura cymdeithasol. Yn benodol, mae wedi bod yn gysylltiedig â datblygu system anodi semantig ar gyfer corpora ar gyfer sawl iaith dros flynyddoedd lawer. Mae Scott yn cyfrannu at ddatblygu tagiwr semantig CorCenCC a’r adnoddau torfoli.