Cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ac ymchwilydd; tiwtor Cymraeg, Welsh in a week (S4C)
Nia-Parry.2-e1459930366879“Fel Cymraes, fel addysgydd ac fel ieithydd rwy’n hynod gyffrous, angerddol a balch o fod yn llysgennad ar gyfer y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm o arbenigwyr ymroddedig sy’n gweithio ar y cynllun hwn. Bydd eu canfyddiadau a’u casgliadau yn llywio dyfodol y maes dysgu Cymraeg a bydd yn treiddio i sut mae ein hiaith yn esblygu a datblygu a sut rydym yn ei defnyddio yn y Gymru gyfoes. Mae hi’n cynnig ffenest i ni i weld ein heniaith hardd, gyfoethog, farddonol, a bydd yn rhoi dealltwriaeth i ni ohoni a chipolwg i ni o’i dyfodol. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn defnyddio strwythurau a brawddegau a phatrymau, treigladau, bratiaith a iaith lafar, iaith testun ac e-bost, sut rydym yn talfyrru, beth rydym yn ei ddweud a sut rydym yn ei fynegi. Bydd hwn yn adnodd amhrisiadwy i genedlaethau’r dyfodol ac yn fy marn i bydd y gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod fel cenedl a’n lle yn y byd.”