Mair ReesYn dilyn gyrfa 15 mlynedd fel therapydd celf yn gweithio’n bennaf gydag oedolion ag anabledd dysgu, dychwelodd Dr Mair Rees i addysg llawn amser i astudio am radd BA mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2004. Wedyn, bu’n ddigon ffodus i ennill ysgoloriaeth a wnaeth hefyd ei galluogi i wneud PhD mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Ers iddi raddio yn 2012 mae Mair wedi gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg Gomer, Llandysul. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at adolygiadau ac erthyglau i gylchgronau Cymraeg ac mae ganddi hefyd fusnes bach yn gwneud cardiau ac anrhegion Cymraeg ychydig yn wahanol. Mae Mair yn cyfrannu at gasglu’r data Cymraeg a darparu arbenigedd iaith drwy gydol y prosiect.