Kevin ScannellMae Kevin Scannell yn Athro Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Saint Louis yn UDA. Mae wedi cydweithio â dwsinau o gymunedau iaith ar draws y byd i greu adnoddau iaith sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar Aeleg Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw yn bennaf. Yn 2011, sefydlodd brosiect Indigenous Tweets i hyrwyddo’r defnydd o ieithoedd brodorol a lleiafrifol yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae Kevin yn cynorthwyo â datblygu’r offer ar gyfer digido marcio i fyny a thagio data CorCenCC.