Jennifer NeedsMae Dr Jennifer Needs wedi cwblhau PhD yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddar. Yn ei gwaith PhD edrychodd ar egwyddorion datblygiad deunyddiau dysgu iaith ar-lein. Defnyddiodd dair egwyddor fel sail i ddatblygiad ei deunyddiau e-ddysgu ei hun i oedolion sydd yn dysgu Cymraeg, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Iaith Gymraeg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn i greu deunyddiau ar-lein unigryw i ddysgwyr. Cyn ei PhD, roedd Jennifer yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ym maes Cymraeg i Oedolion, a chyflawnodd radd BA mewn Ieithyddiaeth a Sbaeneg ym Mhrifysgol Leeds ac MA mewn Dogfennu ac Adfywio Ieithoedd mewn Perygl yn SOAS, Llundain. Jennifer sy’n cyfrannu at gasglu’r data Cymraeg ar gyfer CorCenCC, datblygu’r pecyn cymorth pedagogaidd a darparu arbenigedd iaith penodol drwy gydol y prosiect.