Irena SpasicMae Dr Irena Spasić yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil yno ac yn arwain y thema Chwilio am Destun a Data. Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithio rhyngddisgyblaethol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys chwilio am destun, cynrychioli gwybodaeth, dysgu peirianyddol a’u defnyddio ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol, y cyfryngau cymdeithasol, gwyddorau bywyd a gofal iechyd. Roedd ei thîm yn fuddugol mewn her yn 2008 i ddosbarthu statws afiechydon yn ôl crynodebau cleifion sy’n gadael yr ysbyty. Ariannwyd yr her gan y Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol (NIH) (https://www.i2b2.org/NLP/). Yn ogystal, arweiniodd dîm a ddaeth yn drydydd mewn prosiect dadansoddi gwybodaeth o grynodebau cleifion sy’n gadael yr ysbyty (2009), yn ogystal ag i’r brig wrth gael gafael ar wybodaeth oedd yr anoddaf i’w modelu. Irena sy’n goruchwylio dylunio ac adeiladu’r isadeiledd ar-lein a fydd yn cyfuno’r holl offer ar gyfer holi’r corpws, y tagwyr a’r pecyn cymorth pedagogaidd yn un offeryn ar-lein unigol ar gyfer corpws CorCenCC.