DWD-Photo-e1459586837920Mae Ignatius Ezeani yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil UCREL, Prifysgol Caerhirfryn. Ar hyn o bryd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â datblygu fframweithiau cadarn i addasu modelau a thechnegau presennol NLP ar gyfer ymchwil iaith adnoddau prin. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y math o haniaethau ystyr a pherthnasau semantig sy’n cael eu dal gan fodelau mewnblannu dwfn a hyfforddir yn aml gan feintiau enfawr o ddata oddi wrth ieithoedd â llawer o adnoddau a sut i gymhwyso’r rhain ar gyfer ieithoedd adnoddau prin. Ar ben hynny, mae ganddo ddiddordeb cyffredinol mewn dylunio a datblygu dysgu trwy beiriannau a modelau niwral dwfn yn ogystal â chymhwyso’r rhain, nid yn unig i NLP, ond hefyd i faes ehangach gwyddor data. Ar hyn o bryd, mae Ignatius wrthi’n edrych ar ddulliau effeithlon o wella manwl gywirdeb a dibynadwyedd y Tagiwr Semantig Cymraeg.