Cliciwch ar un o’r cwestiynau isod:
Cynnydd hyd yn hyn
Mapio cynnydd casglu data
Mae ymchwilwyr CorCenCC wedi teithio ar draws Cymru i gasglu data llafar drwy recordio mewn sawl lleoliad a digwyddiad. O drwyn Pen Llŷn yng Ngwynedd i ddinasoedd Caerdydd ac Abertawe, rydym yn anelu at gofnodi y ffordd y caiff y Gymraeg ei defnyddio’n naturiol heddiw ym mhob cwr o’r wlad.
Mae’r map hwn yn dangos ein cynnydd hyd yn hyn. Mae’r targedau ar gyfer pob awdurdod lleol yn seiliedig ar y nifer o siaradwyr Cymraeg yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011. Mae’r lliwiau’n dangos ein cynnydd tuag at bob targed unigol.
Cyfrannu
Sut gallaf gyfrannu deunyddiau i’r corpws?
Mae hi bellach yn bosibl cyfrannu deunyddiau ysgrifenedig, digidol neu lafar i’r corpws drwy’r we. Ewch i app.corcencc.org i gofrestru ac i uwchlwytho’ch ffeiliau – e.e. recordiadau sain neu fideo, neu ddeunyddiau yr ydych wedi’u hysgrifennu megis dogfennau Word/PDF neu ebyst. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â CorCenCC@caerdydd.ac.uk
Hefyd gallwch gyfrannu data llafar drwy ap CorCenCC (sydd bellach ar gael ar gyfer dyfeisiadau Android ac Apple).
Neu efallai yr hoffech chi gyfrannu rhai o’ch negeseuon testun Cymraeg? Dilynwch y cyfarwyddiadau yma:
Sut rydw i’n cyfrannu iaith lafar i’r corpws?
Rydym wedi datblygu ap ffôn symudol fel bod y rhai sy’n berchen ar ddyfais Apple neu Android yn gallu recordio’u hiaith lafar a’i hanfon atom (cliciwch yma i gael rhagor o fanylion). Hefyd, gallwch gyfrannu data llafar ac ysgrifenedig drwy’r we (gweler Sut gallaf gyfrannu deunyddiau i’r corpws?).
Oes terfyn ar faint caf ei gyfrannu i’r corpws?
Cewch gyfrannu faint fynnoch chi i’r corpws; nid oes isafswm neu uchafswm penodol.
A fydd defnyddwyr y corpws yn gallu adnabod pwy ydw i drwy ddarllen y deunyddiau y byddaf yn eu cyfrannu?
Oni bai eich bod yn rhoi caniatâd ymlaen llaw inni gynnwys eich enw, fydd dim modd i neb wybod mai chi yw awdur eich testun chi, oherwydd er mwyn gwarchod enwau’r cyfranwyr i’r corpws ac enwau’r unigolion y mae sôn amdanyn nhw ynddo, bydd yr holl gynnwys yn gwbl ddienw.
A fyddwch chi’n cyhoeddi rhestr o gyfranwyr ar y safle?
Yn gyffredinol, ni fydd enwau aelodau Cymuned CorCenCC yn cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau cael eich enwi fel cyfrannwr i’r oesoedd i ddod, da chi, rhowch wybod inni ac fe gyhoeddwn eich enw ar y wefan hon.
Cadw mewn cysylltiad
Sut rydw i’n cofrestru i dderbyn cylchlythyr CorCenCC?
Rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y ffurflen isod ac yna cliciwch y botwm ‘Subscribe’:
Sut gallaf ddilyn datblygiadau ar Twitter neu Facebook?
- Dilynwch ni ar Twitter: @CorCenCC
- Hoffwch ni ar Facebook: facebook.com/CorCenCC/
 phwy y gallaf gysylltu os oes gennyf unrhyw sylwadau, cwestiynau neu ymholiadau pellach?
I gael rhagor o wybodaeth ar brosiect CorCenCC cysylltwch â’r tîm prosiect: CorCenCC@caerdydd.ac.uk