Cliciwch ar un o’r cwestiynau isod:

 

Cyffredinol

 

Beth yw Corpws?
Beth yw CorCenCC?
Sut rydw i’n defnyddio’r corpws?

Technegol

Hoffwn ddefnyddio’r ap ffôn symudol ond does gen i ddim iPhone neu iPad – beth gallaf ei wneud?
Mae gennyf broblem gyda’r ap ffôn symudol – â phwy y dylwn gysylltu?
Mae gennyf broblem gyda’r wefan – â phwy y dylwn gysylltu?

Beth yw Corpws?

Yn y bôn, cronfa ddata o eiriau yw corpws. Nid yw corpws yr un fath â geiriadur. Pan fydd defnyddwyr yn chwilio am air mewn corpws, maent yn gallu gweld llawer o enghreifftiau o’r geiriau yn eu cyd-destunau gwreiddiol, fel eu bod wedi cael eu defnyddio gan yr awdur neu’r siaradwr gwreiddiol. Gan fod corpws yn adnodd electronig, gall defnyddwyr hefyd gael gwybod, er enghraifft, pa mor aml y mae gair penodol yn cael ei ddefnyddio, neu greu cwisiau wedi’u teilwra i helpu gyda dysgu ieithoedd. Yn gryno, mae corpws yn offeryn electronig gwerthfawr sy’n caniatáu i ni ddeall ein hiaith yn well.

Yn ôl i’r brig

Beth yw CorCenCC?

Prosiect rhyngddisgyblaethol a rhyngsefydliadol yw CorCenCC a fydd yn creu corpws mawr, ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes. Bydd CorCenCC yn torri tir newydd fel adnodd iaith ac fel model i lunio corpws. Hwn fydd y corpws Cymraeg mawr cyntaf a fydd yn cynrychioli sut caiff yr iaith ei defnyddio ar draws mathau o gyfathrebu (tua 4m o eiriau llafar, 4m ysgrifenedig, 2m e-iaith), genres, amrywiadau (rhanbarthol a chymdeithasol) a chyd-destunau iaith, gyda chyfranwyr a fydd yn cynrychioli dros hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y DU. Hefyd bydd yn llunio dulliau trawsffurfiol ar gyfer creu corpora, eu heffaith a’u cynaliadwyedd.

Bydd y broses o greu CorCenCC wedi’i gyrru gan y gymuned, a bydd yn defnyddio dulliau y mae technolegau symudol yn eu cynnig, yn benodol defnyddio tyrfa’n ffynhonnell gwybodaeth (crowdsourcing) a chydweithredu cymunedol. Effaith y corpws fydd cynllun wedi’i lywio gan ddefnyddwyr, fel bod modd cynnwys swyddogaethau corpws sylfaenol ar gyfer ymholi am ddefnydd iaith mewn pecyn cymorth pwrpasol i athrawon a dysgwyr (o fewn y prosiect hwn) a manylebau rhyngwyneb i grwpiau defnyddwyr eraill (e.e. cyfieithwyr, cyhoeddwyr, gwneuthurwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith, academyddion ac eraill) y tu hwnt i’r prosiect.

Mae CorCenCC wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a’r Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) [Grant Rhif ES/M011348/1]. Arweinydd y prosiect fydd Dawn Knight, yn y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iaith a Chyfathrebu, Prifysgol Caerdydd. Mae’r tîm prosiect academaidd yn cynnwys:

  • Dawn Knight, Prifysgol Caerdydd (Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)
  • Irena Spasic, Prifysgol Caerdydd (Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg)
  • Jonathan Morris, Prifysgol Caerdydd (Ysgol y Gymraeg)
  • Tess Fitzpatrick, Prifysgol Abertawe (Ysgol Ieithyddiaeth Gymhwysol)
  • Steve Morris, Prifysgol Abertawe (Adran y Gymraeg)
  • Alex Lovell, Prifysgol Abertawe (Adran y Gymraeg)
  • Paul Rayson, Prifysgol Caerhirfryn (Ysgol Cyfrifiadura a Chyfathrebu)
  • Enlli Thomas, Prifysgol Bangor (Ysgol Addysg)

Mae’r cyfranwyr a’r cydweithwyr eraill yn cynnwys rhaglenwyr cyfrifiadur, arbenigwyr ar y Gymraeg ac amryw o randdeiliaid allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa, a Geiriadur y Gymraeg Prifysgol Cymru.

Gweler hefyd adran Amdanom niy wefan hon.

Yn ôl i’r brig

Sut rydw i’n defnyddio’r corpws?

Ar ôl i’r corpws gael ei gyhoeddi, byddwn ni’n rhoi cyfarwyddiadau manwl ar sut i’w ddefnyddio ef a’i adnoddau cysylltiedig. Gweler hefyd adran Corpws y wefan hon.

Yn ôl i’r brig

Hoffwn ddefnyddio’r ap ffôn symudol ond does gen i ddim iPhone neu iPad – beth gallaf ei wneud?

Newyddion da! Erbyn hyn, rydym wedi datblygu fersiwn o’r ap ar gyfer ffonau Android – gweler ein tudalen Ap am ragor o wybodaeth. Hefyd, mae modd cyfrannu data drwy ein ap gwe: app.corcencc.org.

Yn ôl i’r brig

Mae gennyf broblem gyda’r ap ffôn symudol – â phwy y dylwn gysylltu?

Os oes gennych broblem gyda’r ap ffôn symudol, anfonwch e-bost i tech@corcencc.org.

Yn ôl i’r brig

Mae gennyf broblem gyda’r wefan – â phwy y dylwn gysylltu?

Os oes gennych broblem gyda’r gwefan, anfonwch e-bost i tech@corcencc.org.

Yn ôl i’r brig